Thursday 17 September 2009

Pres loteri i hybu cylch meithrin Treuddyn


O'r chwith i'r dde/ left to right: Glenys Jones (arweinydd Cylch Meithrin Terrig), Riley Griffiths, Steven Rogers, Emma Wilson, Gruffydd Thomas, Janet Ryder AC, Marian Antrobus (Swyddog datblygu), Diane Morris, Aled Morris. Yn y cefn mae'r cynghorydd lleol Carolyn Thomas.

Roedd hi'n braf iawn cael mynychu Cylch Meithrin Treuddyn yn Ysgol Terrig ddoe gyda'r cynghorydd lleol Carolyn Thomas er mwyn cyflwyno siec am £500 oddiwrth gronfa'r loteri.

 Mae'r siec wedi helpu prynu offer cyfrifiadurol a pheiriant DVD, fydd o help yn y meithrin sy'n dathlu penblwydd yn 35 mlynedd oed eleni. Llongyfarchiadau mawr i'r staff, gwirfoddolwyr ac i'r plant.

No comments:

Post a Comment