Wednesday 7 April 2010

Dyfodol disglair i Gorwen - New vision for the Pavilion

Mae cynghorwyr lleol Plaid Cymru Huw Jones a Cefyn Williams wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus pwysig nos fory i drafod y ffordd orau ymlaen wedi cau’r Pafiliwn.
 Roedd y ddau ynghyd â Steve Caldwell yn y dre’ ddechrau’r wythnos i gyfarfod Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Janet Ryder a llywydd anrhydeddus y Blaid Dafydd Wigley.
 Roedd y ddau yna i ddangos eu cefnogaeth i sicrhau fod Corwen yn cael canolfan gymunedol gwerth chweil at y dyfodol.
 Dywedodd Janet Ryder:
 “Mae pobl ardal Corwen yn amlwg eisiau sicrhau fod adeilad pwrpasol yn dod yn sgil cau’r hen Bafiliwn.
 “Rydw i’n falch iawn o weld fod gweledigaeth go iawn ar gyfer y dyfodol a byddaf yn gwneud popeth posib i sicrhau fod gan Corwen yr adeilad cyhoeddus gorau posib ar gyfer yr 21ain Ganrif.”

New vision for the Pavilion
Local Plaid Cymru councillors Huw Jones and Cefyn Williams have arranged an important public meeting to discuss the way forward for Corwen after the closure of the Pavilion.
 They and community councillor Steve Caldwell were joined in Corwen earlier this week by North Wales Assembly Member Janet Ryder and veteran campaigner Dafydd Wigley.
 Both pledged their support for the campaign to ensure that Corwen had a proper community building to replace the Pavilion.
 Janet Ryder said:
“There is a determination in Corwen and the surrounding area that the closure of the old Pavilion should not be taken lying down.
 “I’m delighted that there is also a vision for the future and will do all I can to ensure that Corwen has a building fit for the 21st Century.”

No comments:

Post a Comment